Ein Stori

 

Ein nod wrth agor Bloc oedd cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol. Rydym bob amser wedi anelu at ddefnyddio cynhwysion lleol o ansawdd, i weithio gyda busnesau annibynnol eraill ac yn fwy bwysig i greu coffi blasus iawn.

 

Dechreuodd y cysyniad ar gyfer Bloc yn 2018 ar ôl hanner cwympo ar floc toiled segur wedi'i leoli yn mlaen Parc Victoria, Caerdydd. Yn syml iawn, daeth y lle ar gael ac ni allem adael y cyfle i basio ni heibio. Roedd yr adeilad yn wag ac wedi ei fyrddio ers dros 20 mlynedd, ond i ni, roedd yn gyfle perffaith i ddod â rhywbeth yn ôl i'r parc ffyniannus hwn.

Cymerodd adnewyddu'r adeilad oddeutu 6 mis o'r dechrau i'r diwedd; dadadeiladu yn llwyr y tu mewn wrth sicrhau ein bod yn cadw elfennau o’i gymeriad gwreiddiol. Os edrychwch chi pan fyddwch chi y tu mewn, fe welwch ychydig o waith brics a theils gwreiddiol. Heb os nac oni bai, mae'r adeilad bellach wedi'i drawsnewid yn gwagle cynnes a deniadol, sy'n rhagori ein bwriad gwreiddiol o gaffi.

Ein nod wrth agor Bloc oedd cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol. Rydym bob amser wedi anelu at ddefnyddio cynhwysion lleol o ansawdd, i weithio gyda busnesau annibynnol eraill ac yn fwy bwysig i greu coffi blasus iawn. Mae Bloc bellach wedi tyfu i fod yn fusnes deinamig gan gynnig coffi gwych a bwyd ffres trwy gydol y dydd i'r gymuned, chynnal partïon, digwyddiadau ‘pop-up’ a dosbarthiadau iaith gyda'r nos.

Mewn tirwedd sy'n newid yn barhaus, rydyn ni'n gyffrous gweld i ba gyfeiriad mae Bloc yn mynd, ac rydyn ni'n gobeithio rydych chi'n mwynhau'r daith gymaint a ni.